Achlysur i'r genedl gyfan

Yn ystod tymor yr haf, mae Dreamachine yn gwahodd eich ysgol i gymryd rhan yn y fenter Cwestiynau Mawr Bywydarolwg plant cenedlaethol rhyngweithiol o’r synhwyrau, gydag ymchwiliadau gwyddonol cyffrous a rhithiau syfrdanol i ennyn diddordeb yn yr ystafell ddosbarth wyddoniaeth ac i ddatgelu potensial anhygoel yr ymennydd dynol. 

Yng nghwmni Martin Dougan (CBBC Newsround), ymunwch â ni i ofyn cwestiynau gwyddonol ac athronyddol mawr yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn am ein profiad o’r byd a pham nad yw’r synhwyrau mor syml ag y maent yn ymddangos. Cewch gyfle i glywed gan wyddonwyr ac athronwyr byd-enwog, cael atebion i’ch cwestiynau, ymuno ag ysgolion o bob cwr o’r DU wrth i chi rannu eich ymatebion i’r arolwg a gweld sut maent yn cymharu ag eraill!