30 o gynlluniau gwersi creadigol sy'n canolbwyntio ar Wyddoniaeth, Dinasyddiaeth Fyd-eang ac ABCh

Yn ystod tymhorau gwanwyn a haf 2022, byddwn yn rhannu 30 o gynlluniau gwersi a achredwyd ac y sicrhawyd eu hansawdd ar bynciau Dinasyddiaeth Fyd-eang, Y Byd o’n Cwmpas, Iechyd a Lles, Datblygiad Personol, Pŵer yr Ymennydd, a Chanfyddiad a Ffugddelweddau. 

Mae’r gwersi wedi’u cynllunio ar gyfer disgyblion 5-13 oed, ac maent yn cyfateb i’r Cwricwla Cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac i’r Curriculum for Excellence yn yr Alban.

Gwyddoniaeth

gyda Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain

Ysbrydolwch eich dosbarth â’r adnoddau hyn a Achredwyd â Gwobr CREST, i archwilio rhyfeddod y meddwl a’r ymennydd, pwy ydym ni a’r modd rydym yn canfod y byd.

Mae pob gwers yn defnyddio ymchwiliad gwyddonol i feithrin dealltwriaeth plant o gysyniadau gwyddonol, a sgiliau archwilio i ennyn chwilfrydedd a gwella dealltwriaeth o’r modd rydym yn rhyngweithio â’r byd.

Dinasyddiaeth Fyd-eang gydag UNICEF UK

Heriwch eich disgyblion i ehangu eu dealltwriaeth o’u hawliau, i feddwl beth sy’n bwysig iddynt, i ddeall byd cynyddol gymhleth ac i gydnabod eu bod yn rhan o gymuned fyd-eang. 

Datblygwyd y gwersi mewn partneriaeth ag UNICEF UK, ac mae pob un yn canolbwyntio ar hawl benodol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) ac maent yn helpu’r disgyblion i fagu hyder wrth sefyll i fyny dros eu credoau a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

ABCh

Hyrwyddwch drafodaeth â’ch dosbarth gan ddefnyddio gweithgareddau celf fynegiannol i helpu’r disgyblion i ddeall eu hemosiynau a’u canfyddiadau nhw eu hunain ac eraill. 

Mae’r casgliad hwn o 10 o gynlluniau gwersi ar gyfer plant 5-13 oed yn canolbwyntio ar Ddatblygiad Personol ac Iechyd a Lles, gan roi cyfleoedd i’r plant fyfyrio ar eu cysylltiad â’i gilydd a’r byd, gan feithrin hunanhyder a strategaethau ar gyfer hunanofal.

Datgloi'r posibiliadau

Cofrestrwch nawr am ddim i gael