Lles a datblygiad proffesiynol

Er bod y gymuned addysgu yn parhau i ddelio â’r canlyniadau, mae rhoi cymorth ar gyfer lles ac iechyd meddwl yn flaenoriaeth, ac, yn ganolog i raglen Dreamachine, mae cyfres datblygiad proffesiynol sy’n canolbwyntio ar les athrawon, mewn cydweithrediad â’r Chartered Colleage of Teaching a Education Support. 

Cynhelir sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb drwy gydol tymor yr haf 2022, a byddant yn canolbwyntio ar wyddoniaeth lles; dulliau o sicrhau lles meddyliol; rheoli amser; ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod ac arwyddion ar gyfer yr ystafell ddosbarth ar iechyd meddwl plant ac adnoddau Unicef UK.

Arweinyddiaeth Ysgolion a Lles Athrawon

Sesiwn am ddim ar ddatblygiad proffesiynol gan Dreamachine, sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth lles a dulliau gweithredu i ysgolion eu defnyddio ar gyfer eu staff addysgu.

Yn y weminar hon, bydd Alison Peacock, prif swyddog y Chartered Colleage of Teaching a Sinéad Mc Brearty, o Education Support yn trafod y dulliau gweithredu y gall Uwch-arweinwyr Ysgolion, Penaethiaid a Llywodraethwyr eu defnyddio i gefnogi lles addysgwyr, yn cynnwys sesiwn holi ac ateb.

Trafodaeth Panel Lles Athrawon

Sesiwn datblygiad personol am ddim gan Dreamachine sy’n annog sgyrsiau dewr am reoli iechyd meddwl i athrawon. Mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar awgrymiadau lles ymarferol a ffyrdd ystyrlon o sicrhau bod hyn yn rhan o’ch bywyd pan fyddwch yn teimlo dan bwysau neu dan straen.

Gweithgareddau Lles Creadigol yn yr Ystafell Ddosbarth

Sesiwn datblygiad proffesiynol am ddim gan Dreamachine, sy’n canolbwyntio ar weithgareddau enghreifftiol i hyrwyddo lles yn yr ystafell ddosbarth. Yn y weminar hon, bydd yr artist a’r Ymarferydd Creadigol, ac awdur adnoddau ysgol Dreamachine, Shermaine Slocombe, yn dangos rhai o’i gweithgareddau o’r gyfres o gynlluniau gwersi ar Iechyd a Lles.